Mae e-byst wedi arwain at laesu dwylo a gwastraffu amserol yn y gweithlu drwy wledydd Prydain, yn ôl ymgynghorydd i’r llywodraeth, ac yn golygu fod llai o waith yn cael ei wneud.

Mae’r Athro Cary Cooper o Ysgol Reolaeth Prifysgol Lancaster yn honni ym mhapur newydd The Times fod cynhyrchiant ym Mhrydain yn ail o’r gwaelod ymysg gwledydd llewyrchus y G7 oherwydd bod gwledydd Prydain wedi cofleidio technoleg gwybodaeth ‘yn ormodol’.

Un o argymhellion yr Athro Cooper yw y dylai adrannau technoleg gwybodaeth gau peiriannau cynnal gwefannau a systemau e-byst cwmnïau yn ystod y nos ac ar benwythnosau, yn lle bod posib agor ac ymateb i e-byst y tu allan i oriau gwaith.

Canlyniad hyn, yn ôl yr Athro Cooper, yw achosi blinder difrifol ymhlith staff.