Blychau pleidleisio
Mae’r gorsafoedd pleidleisio wedi agor a’r ymgyrchu etholiadol yn dirwyn i ben wrth i’r pleidiau obeithio am symudiadau munud ola a cheisio gwneud yn sicr bod eu cefnogwyr yn mynd i’r bythau.

Yn ôl yr arolygon barn, dyma fydd yr etholiad agosaf ers degawdau ac mae arbenigwyr yn darogan ei bod hi’n debygol iawn na fydd yr un blaid yn ennill gyda mwyafrif.

Ond fe allai seddi ymylol yn Lloegr roi ambell syndod a dylanwadu’n sylweddol ar y canlyniad yn y pen draw.

Fe fydd llawer o edrych hefyd ar yr Alban i weld a fydd pleidleisio tactegol y natal y blaid gnedlaethol, yr SNP, rhag cipio bron y cyfan o’r seddi.

Wedyn y bydd y trafod go iawn yn dechrau, gyda mwy o bosibliadau clymbleidio nag erioed o’r blaen yn hanes gwledydd Prydain.

Y darogan diweddara’

Er gwaetha’ un o’r ymgyrchoedd hwya’ erioed mae amheuon a yw ymgyrchu tanbaid y pleidiau wedi cael gwir effaith ar y sefyllfa yma.

Y rhagolwg Prydeinig diweddaraf ar wefan electionforecast.co.uk yw:

  • Y Ceidwadwyr – Poblogrwydd wedi aros yn sefydlog dros y pythefnos diwetha’. Bron yn sicr o golli seddi. Ennill mwyafrif yn annhebygol iawn;
  • Llafur – Wedi aros yn sefydlog dros y pythefnos diwetha’. Tebygol o ennill seddi. Ennill mwyafrif yn annhebygol iawn;
  • Democratiaid Rhyddfrydol – Poblogrwydd wedi codi dros y pythefnos diwetha’. Bron yn sicr o golli seddi;
  • Plaid Cymru – Wedi aros yn sefydlog dros y pythefnos diwetha’. Tebygol o ennill seddi;
  • SNP – Wedi aros yn sefydlog dros y pythefnos diwetha’. Bron yn sicr o ennill seddi;
  • Y Blaid Werdd – Wedi aros yn sefydlog dros y pythefnos diwetha’. Annhebygol o golli seddi;
  • UKIP – Wedi aros yn sefydlog dros y pythefnos diwetha’. Annhebygol o ennill seddi.