Mae cwmni sy’n cynnal arolygon barn wedi dweud bod yr etholiad yfory yn rhy agos i alw, ac wedi awgrymu fod y Blaid Lafur a’r Ceidwadwyr wedi cyrraedd sefyllfa amhosibl yn yr ymgyrch.
Mae arolwg terfynol TNS cyn yr etholiad wedi rhoi’r Ceidwadwyr fymryn ar y blaen ar 33% o’i gymharu â Llafur ar 32%. Mae UKIP ar 14% a’r Democratiaid Rhyddfrydol ar 8%.
Yn ôl Nick Clegg, mae pleidleiswyr yn wynebu “penderfyniad gwleidyddol mwyaf eu bywydau.”.
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol wedi cyhuddo David Cameron ac Ed Miliband o “gerdded yn ddiarwybod” tuag at lywodraeth leiafrifol “anniben ac yn ansefydlog” oherwydd eu hamharodrwydd i drafod ffurfio clymblaid.
Ond mae arweinwyr y Ceidwadwyr a Llafur, ill dau, yn mynnu eu bod yn dal yn obeithiol o sicrhau mwyafrif llwyr yn Nhŷ’r Cyffredin, er gwaethaf canlyniadau’r polau piniwn.
‘Gwarthus’
Roedd Ed Miliband yng ngogledd Lloegr heddiw tra bod David Cameron wedi bod am frecwast i fferm yn Aberhonddu. Tra’r oedd yng Nghymru cafodd ei feirniadu gan Lafur am ei ymosodiad ar y Gwasanaeth Iechyd (GIG) yng Nghymru.
Dywedodd Owen Smith o’r Blaid Lafur ei bod hi’n “warthus” fod David Cameron wedi dod i Gymru ar y noson cyn yr etholiad i “atgyfnerthu ei ymosodiad ar wasanaethau cyhoeddus”.
Meddai Owen Smith: “Er gwaethaf galwadau iddo ymddiheuro i nyrsys am ei ymosodiadau, mae arweinydd y Torïaid eto wedi amddiffyn galw Clawdd Offa yn ‘ffin rhwng bywyd a marwolaeth’ .”
‘Gweithio gyda’i gilydd’
Dywedodd arweinydd yr SNP Nicola Sturgeon y byddai canlyniad amhendant yn gyfystyr â neges gan bleidleiswyr eu bod eisiau i wleidyddion “weithio gyda’i gilydd”.
Heno, wrth annerch rali noswyl yr etholiad yng Nghaerfyrddin – safle buddugoliaeth gyntaf Plaid Cymru yn San Steffan bron i hanner canrif yn ôl – fe fydd Leanne Wood yn dweud y gall Cymru ymddiried yn ei phlaid i ennill dros Gymru.
Bydd hi hefyd yn dweud fod gan bobl Cymru’r cyfle i roi’r genedl wrth galon agenda’r DU trwy gefnogi ymgeiswyr lleol Plaid Cymru ledled y wlad ac ein bod ni “ar fin profi cwymp yr hen system ddwy-blaid”.
Ac yntau yn yr Alban fel rhan o’i daith 1,000 milltir o amgylch y DU – o Lands End i John O’Groats – mae Nick Clegg yn parhau i fod yn ffyddiog.
Dywedodd ei fod yn credu y bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn gwneud yn well nag mae unrhyw un yn ei ddisgwyl.