Mae canlyniadau arolwg barn olaf gan y Baromedr Gwleidyddol Cymreig cyn yr etholiad cyffredinol wedi datgelu fod Llafur yn parhau i fod ymhell ar y blaen yng Nghymru.
Mae’r Baromedr Gwleidyddol Cymreig yn gydweithrediad rhwng ITV Cymru Wales, Canolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd a’r asiantaeth pleidleisio YouGov.
Mae’r arolwg barn yn rhoi Llafur ar 39%, y Ceidwadwyr ar 25%, Plaid Cymru ar 13%, UKIP ar 12%, y Democratiaid Rhyddfrydol ar 8% a’r Blaid Werdd ar 2%.
Mae’r canlyniad yn golygu fod poblogrwydd Plaid Cymru wedi codi un pwynt yn wythnosau ola’r ymgyrch ac mae’r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd wedi codi 2 bwynt ers yr arolwg diwethaf dair wythnos yn ôl.
Mae Llafur, y Ceidwadwyr ac UKIP wedi colli un pwynt tra bod y Gwyrddion wedi colli dau bwynt.
Dwy sedd ychwanegol i Lafur?
Yn ôl yr Athro Roger Scully o Brifysgol Caerdydd fe fyddai’r Blaid Lafur yn ennill dwy sedd ychwanegol yng Nghymru yn yr etholiad petai swing cyffredinol ar draws y wlad.
Byddai hynny’n gweld Llafur yn cipio sedd Canol Caerdydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol a sedd Gogledd Caerdydd gan y Ceidwadwyr, gan ddod a’u cyfanswm i 28.
Yn ôl y swing cenedlaethol hwnnw ni fyddai Plaid Cymru yn cynyddu nifer ei Haelodau Seneddol yn San Steffan y tro hwn – er gwaethaf poblogrwydd Leanne Wood yn y dadleuon teledu.
Ond fe bwysleisiodd Roger Scully mai nid ei ddarogan personol ef oedd yr amcangyfrifon hynny.
“Mae’r arolwg olaf yn awgrymu mai ychydig iawn o effaith mae’r ymgyrch wedi ei gael o ran newid meddyliau pleidleiswyr yng Nghymru,” meddai Roger Scully.
“Mae’r gefnogaeth i’r Blaid Lafur, serch hynny, wedi bod yn sefydlog drwy gydol yr ymgyrch.”
Ychwanegodd fod y gefnogaeth i’r Ceidwadwyr yng Nghymru wedi parhau’n “gadarn.”
‘Cyflawni dros Gymru’
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Lafur Cymru fod yr arolwg barn yn dangos fod y gefnogaeth i Lafur yn fwy yng Nghymru nag oedd cyn yr etholiad cyffredinol diwethaf ac mai’r unig ddewis i bobl Cymru yw pleidleisio dros Lafur er mwyn cadw’r Ceidwadwyr allan o Rif 10.
Meddai’r llefarydd: “Mae ein neges ni’r wythnos hon wedi bod yn un o obaith. Rydym yn estyn allan at bobl ledled Cymru, ar draws rhaniadau gwleidyddol i sicrhau llywodraeth Lafur a fydd yn cyflawni dros Gymru.
“Gall y mwyafrif blaengar yng Nghymru atal llywodraeth Dorïaidd drwy roi eu cefnogaeth i Lafur.”