Mae bwrdd iechyd yn gofyn i bobol sydd wedi cael tatŵ neu dyllu’u corff mewn siop yng Nghasnewydd i ofyn am brawf gwaed, wedi i gwsmeriaid ddioddef haint croen difrifol.
Bu’n rhaid i bump o bobol wnaeth ddefnyddio stiwdio Blue Voodoo, Sun Tattoo Studio a Flesh Wound ar 92 Commercial Street, Casnewydd rhwng mis Mai 2013 a mis Chwefror 2014 dderbyn triniaeth yn yr ysbyty.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan y gallai’r achosion fod yn arwydd bod yr holl gwsmeriaid sydd wedi defnyddio’r stiwdio yn wynebu perygl bychan o drosglwyddo Hepatitis B a Hepatitis C, a pherygl bach iawn o drosglwyddo HIV.
Mae llythyrau wedi cael eu hanfon at 550 o gwsmeriaid i gynnig prawf gwaed ar gyfer y tri haint.
Er hyn, mae swyddogion iechyd wedi pwysleisio bod y siawns o ddal haint sy’n cael ei gludo yn y gwaed drwy datŵ neu dyllu’r corff yn “isel iawn”.
Mae’r stiwdio datŵs, sydd bellach wedi cau, o dan ymchwiliad gan dîm iechyd amgylcheddol Cyngor Casnewydd yn ôl y Bwrdd Iechyd.