Roger Daltrey a Pete Townshend o'r grwp The Who
Mae’r grŵp roc The Who wedi cyhoeddi mai nhw fydd yn cloi gŵyl gerddoriaeth Glastonbury eleni.
Bydd y band yn perfformio yn Glastonbury wrth iddyn nhw nodi hanner canrif gyda’i gilydd, ac mi fyddan nhw hefyd yn chwarae yn Hyde Park yn Llundain dros yr un penwythnos a’r ŵyl.
Dywedodd prif leisydd y band, Roger Daltrey: “Mae’n wych dod a’r rhan hon o’n gyrfa ni dros 50 mlynedd i ben yn yr ŵyl gerddoriaeth fwyaf uchel ei pharch yn y byd.”
Mae artistiaid eraill sydd wedi cael eu cadarnhau ar gyfer Glastonbury eleni yn cynnwys Pharrell Williams, Florence and the Machine a Mark Ronson.
Mae’r ŵyl yn cael ei chynnal rhwng 24 a 28 Mehefin yng Ngwlad yr Haf.