Mae Sainsbury’s wedi cyhoeddi ei gostyngiad cyntaf mewn elw ers degawd.

Roedd y cwmni archfarchnad wedi gwneud elw o £681 miliwn yn y flwyddyn hyd at 14 Mawrth – sef gostyngiad o 14.7% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Roed gwerthiant wedi gostwng 1.9%.

Dywedodd y Prif Weithredwr Mike Coupe: “Mae’r farchnad yn y DU yn newid yn gynt nag unrhyw gyfnod yn ystod y 30 mlynedd diwethaf ac mae hynny wedi cael effaith ar ein helw, gwerthiant a’n cyfran o’r farchnad.”

Mae’r cwmni wedi torri’r difidend i gyfranddalwyr o 23.7%.