Gordon Brown
Mae Gordon Brown wedi gwneud apêl olaf, emosiynol ar bobl i bleidleisio dros Lafur yn yr etholiad cyffredinol.

Dywedodd y cyn Brif Weinidog y gallai ei blaid wneud mwy dros bobl mewn munudau na fyddai’n cael ei gyflawni pe bai’r Alban yn ethol 59 o ASau o’r SNP.

Mae’n debyg mai’r araith angerddol yn Glasgow, fydd cyfraniad olaf Gordon Brown i’r ymgyrch.

Tra bod ei blaid yn dal i lusgo ymhell tu ôl i blaid Nicola Sturgeon yn yr Alban yn ôl yr arolygon barn, fe wnaeth Gordon Brown annog y rhai wnaeth bleidleisio yn y refferendwm ar annibyniaeth y llynedd i “ddod at Lafur” os ydyn nhw am weld newid.

‘Rhannu egwyddorion’

Rhybuddiodd hefyd y byddai cefnogi’r SNP yn “ei gwneud hi’n fwy tebygol bod y Torïaid” yn mynd i fod mewn grym ar ôl yr etholiad.

Mae Nicola Sturgeon wedi cynnig gweithio gyda Ed Miliband sawl tro er mwyn “cloi’r Torïaid allan” o Rif 10, ond mae Llafur wedi mynnu na fydd yn ffurfio clymblaid gyda’r cenedlaetholwyr.

Dywedodd Gordon Brown heddiw: “Nid hwylustod yw’r rheswm pam na allwn ni daro bargen gyda’r SNP, ond egwyddor. Ni allwn gael bargen, neu gyfaddawd, gyda phlaid nad yw’n rhannu egwyddorion o undod.”

Gyda’r etholiad yn fwyaf tebygol o arwain at senedd grog, mae cryn ddyfalu am ba fargeinion gellid ei wneud rhwng y pleidiau.  Dywedodd Gordon Brown mai hon oedd “un o’r etholiadau mwyaf anodd ac un o’r etholiadau mwyaf cymhleth, a dryslyd mae pobl wedi ei gael.”