Y Cynulliad Cenedlaethol
Mae un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi amlinellu nifer o gamau mae’n nodi sy’n angenrheidiol i sicrhau bod costau a buddion uno awdurdodau lleol yn cael eu darparu.
Meddai Pwyllgor Cyllid y Cynulliad bod angen gweithredu chwech o argymhellion er mwyn gwneud y Bil Llywodraeth Leol (Cymru) yn effeithiol.
Prif nod y Bil yw galluogi paratoadau i gael eu gwneud ar gyfer rhaglen uno a diwygio llywodraeth leol a chaniatáu i Brif Awdurdodau Lleol uno’n wirfoddol erbyn mis Ebrill 2018.
Ym mis Chwefror, lansiodd Llywodraeth Cymru Bapur Gwyn oedd yn amlinellu’r telerau ar gyfer diwygio llywodraeth leol yng Nghymru.
Roedd y papur yn gosod gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol llywodraeth leol a’i hymateb i Gomisiwn Williams, sy’n galw am gwtogi nifer y cynghorau o 22 i 10,11 neu 12.
‘Angen eglurder’
Dywedodd Jocelyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Mae’r Pwyllgor yn pryderu y bydd y Bil yn rhoi’r pŵer i Lywodraeth Cymru gymeradwyo uno gwirfoddol heb i gostau a manteision yr uno fod yn hysbys.
“Rydym yn teimlo bod angen eglurder ynghylch sut y bydd costau’r uno gwirfoddol yn cael eu craffu ac rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda llywodraeth leol i baratoi cynllun clir ar gyfer sut y bydd yn amcangyfrif costau uno.
“Barn y Pwyllgor yw bod rhai meysydd y mae angen eu hystyried ymhellach mewn perthynas â throthwyon y pwyllgorau pontio ac mae’n argymell bod y Gweinidog yn adolygu’r elfen hon o’r Bil.”
Argymhellion y Pwyllgor
- Mae’r Pwyllgor yn bryderus y bydd y Bil yn rhoi’r pŵer i Lywodraeth Cymru gymeradwyo uno gwirfoddol heb i gostau a manteision yr uno fod yn hysbys. Mae’r Pwyllgor yn argymell y dylid darparu rhagor o fanylion am gostau a manteision uno.
- Canfu’r Pwyllgor hefyd bod angen eglurder ynghylch sut y bydd costau’r uno gwirfoddol yn cael eu craffu ac mae’n argymell bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda llywodraeth leol i baratoi cynllun clir ar gyfer sut y bydd yn amcangyfrif costau uno.
- Mae’r Pwyllgor yn argymell bod y Gweinidog yn ailedrych ar y costau sy’n gysylltiedig â’r pwyllgorau pontio i ganfod a yw hyn yn adlewyrchiad cywir o’r costau disgwyliedig ac a all unrhyw gostau gael eu talu’n ganolog am wasanaethau y bydd eu hangen ar yr holl bwyllgorau pontio.
- Barn y Pwyllgor yw bod rhai meysydd y mae angen eu hystyried ymhellach mewn perthynas â throthwyon y pwyllgorau pontio ac mae’n argymell bod y Gweinidog yn adolygu’r elfen hon o’r Bil.
- Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynlluniau clir ar gyfer lleihau effaith uno ar lefelau gwahanol y Dreth Gyngor.