Leanne Wood
Mae Leanne Wood wedi dweud fod dyddiau’r hen wleidyddiaeth ar ben gan alw ar bobl yng Nghymru i wneud yn siŵr fod y genedl yn gwneud ei marc ar ganlyniad yr etholiad.

Roedd arweinydd Plaid Cymru yn siarad yng nghysgod cerflun Aneurin Bevan yng Nghaerdydd heddiw, gyda dim ond dau ddiwrnod i fynd tan yr etholiad cyffredinol.

Dywedodd Leanne Wood y bydd gan bobl Cymru gyfle mewn deuddydd i wrthod safle Cymru fel cenedl sy’n cael ei anghofio, a gwrthod y setliad datganoli “eilradd” gan San Steffan.

Gyda’r arolygon barn yn parhau i ddangos nad ydi’r un o bleidiau San Steffan yn debygol o ennill digon o gefnogaeth i ffurfio llywodraeth fwyafrifol, dywedodd Leanne Wood fod gwleidyddiaeth amlbleidiol, aml-genedlaethol nawr yn bosib.

Dangosodd yr arolwg barn YouGov diweddaraf i bapur newydd The Sun fod y Ceidwadwyr a Llafur yn gyfartal ar 33%, UKIP ar 12%, Democratiaid Rhyddfrydol ar 10% a’r Blaid Werdd ar 5%.

‘Cydraddoldeb i Gymru’

Dywedodd Leanne Wood arweinydd Plaid Cymru: “Mae’r hen wleidyddiaeth wedi cyrraedd pen ei thaith a nawr mae gan bobl Cymru’r cyfle i gadw Cymru wrth galon yr agenda gwleidyddol tu hwnt i ddiwrnod yr etholiad.

“Rwy’n gofyn i bobl ym mhob cwr o’r wlad i ystyried hyn: pa ymgeisydd lleol fydd yn cynrychioli eich cymuned orau yn San Steffan? Ym mha blaid ydych chi’n ymddiried i sicrhau fod llais Cymru’n cael ei glywed yn glir?

“Gyda thîm cryfaf erioed Plaid Cymru yn San Steffan, byddwn yn gweithio i sicrhau cydraddoldeb i Gymru gyda gwledydd eraill y DG ac i roi terfyn ar y toriadau sydd wedi niweidio ein cymunedau a’n gwasanaethau cyhoeddus.”

‘Pum mlynedd hir’

Hefyd yn ymgyrchu ar ran eu pleidiau yng Nghaerdydd heddiw mae’r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg, Ed Balls ar ran Llafur ac Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, ar ran y Torïaid.

Bydd Nick Clegg yn rhybuddio etholwyr mai dim ond pleidlais i’r Democratiaid Rhyddfrydol fydd yn cadw Prydain ar y trywydd iawn gan atal y Torïaid neu’r Blaid Lafur rhag gwyro i’r dde neu chwith eithafol.

Bydd Ed Balls hefyd yng Nghaerdydd heddiw gyda’r neges y dylai etholwyr anwybyddu pleidiau llai a rhoi eu pleidlais i Lafur er mwyn cadw’r Ceidwadwyr allan o Rif 10.

A bydd Stephen Crabb yn hyrwyddo toriadau treth a thwf economaidd i Gymru ar ymweliad a Chaerdydd tra bydd y Prif Weinidog David Cameron rhybuddio y byddai Llywodraeth Lafur leiafrifol yn goroesi am “bum mlynedd hir” drwy gael ei “blacmelio” gan yr SNP a’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Bydd arweinydd Ukip, Nigel Farage, yn ymgyrchu yn yr etholaeth mae o’n ymgeisio amdani yng Nghaint.

Twitter – Leanne ar y brig

Yn y cyfamser, Leanne Wood gafodd y gymeradwyaeth fwyaf ar Twitter yn y 24 awr ddiwethaf, wrth iddi bostio cyfres o luniau o’r ymgyrch gan gynnwys ymweliadau ag Aberystwyth, dwyrain Caerfyrddin a Llanelli.

Daeth arweinydd Plaid Cymru i’r brig yng nghiplun dyddiol y Press Association o 40  o brif ffigyrau a phleidiau gwleidyddol yr ymgyrch etholiadol ar Twitter – tra bod arweinydd y Blaid Werdd Natalie Bennett wedi dod yn olaf.

Mae’r siart yn tynnu canran o’r sylwadau negyddol ar Twitter o’r canran o sylwadau cadarnhaol.

Yn ymuno a Leanne Wood yn y pump uchaf oedd dirprwy arweinydd y Blaid Lafur Harriet Harman, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Nick Clegg, llefarydd Llafur ar iechyd, Andy Burnham, ac ymgeisydd UKIP, Patrick O’Flynn.

Derbyniodd arweinydd SNP, Nicola Sturgeon, y nifer fwyaf o sylwadau amdani ar Twitter yn y 24 awr ddiwethaf gyda 5,375.