Bydd arweinwyr gwleidyddol yn gwneud un ymdrech olaf dros y 48 awr nesaf i geisio perswadio pleidleiswyr i roi eu cefnogaeth iddyn nhw yn yr Etholiad Cyffredinol ddydd Iau.

Bydd Nick Clegg yng Nghaerdydd heddiw, wrth iddo wneud taith 1,000 milltir ar draws y DU – o Lands End i John O’Groats – yn neuddydd olaf yr ymgyrchu.

Mae disgwyl i’r dirprwy Brif Weinidog rhybuddio etholwyr mai dim ond pleidlais i’r Democratiaid Rhyddfrydol fydd yn cadw Prydain ar y trywydd iawn gan atal y Torïaid neu’r Blaid Lafur rhag gwyro i’r dde neu chwith eithafol.

Dangosodd yr arolwg barn YouGov diweddaraf i bapur newydd The Sun fod y Ceidwadwyr a Llafur yn gyfartal ar 33%, UKIP ar 12%, Democratiaid Rhyddfrydol ar 10% a’r Blaid Werdd ar 5%.

Bydd llefarydd y Blaid Lafur Ed Balls hefyd yng Nghaerdydd heddiw gyda’r neges y dylai etholwyr anwybyddu pleidiau llai a rhoi eu pleidlais i Lafur er mwyn cadw’r Ceidwadwyr allan o Rif 10.

Bydd Ed Miliband, ar y llaw arall, yn rhybuddio am “ergyd ariannol” fydd yn golygu y bydd y rhan fwyaf o ysbytai yn Lloegr yn wynebu gorfod cwtogi staff, gwelyau a gwasanaethau eleni petai’r Ceidwadwyr yn fuddugol.

Mae disgwyl iddo ddweud y bydd “argyfwng ariannol” yn rhoi straen difrifol ar y GIG fydd yn golygu toriadau mawr yn y misoedd i ddod.

Bydd Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, yn hyrwyddo toriadau treth a thwf economaidd i Gymru ar ymweliad a Chaerdydd heddiw tra bydd y Prif Weinidog David Cameron rhybuddio y byddai Llywodraeth Lafur leiafrifol yn goroesi am “bum mlynedd hir” drwy gael ei “blacmelio” gan yr SNP a’r Democratiaid Rhyddfrydol.

A bydd Leanne Wood yn ymgyrchu mewn rali yng Nghaerdydd o dan gysgod cerflun Aneurin Bevan wrth iddi helpu ymgeiswyr Plaid  Cymru yn y brifddinas gyda’u hymgyrch ac i ledaenu eu neges.

Mae disgwyl i arweinydd Ukip, Nigel Farage, ymgyrchu yn ei etholaeth yng Nghaint.