Yn ôl yr arolygon diweddaraf, mae’r Blaid Geidwadol yn dal fymryn ar y blaen i’r Blaid Lafur dridiau cyn yr etholiad dydd Iau.
Mae ymchwil gan y Press Association o’r gwahanol arolygon barn yn dangos eu bod, ar gyfartaledd, yn dangos y Torïaid ar 33.8%, Llafur ar 33.5%.
Mae Ukip yn y trydydd safle ar 13.4%, y Democratiaid Rhyddfrydol ar 8.4% a’r Gwyrddion ar 4.8%.
Mae’r ffigurau hyn yn cael eu diweddaru’n ddyddiol ar sail ffigurau pob arolwg Prydeinig dros y saith diwrnod cynt – a heddiw yw’r seithfed diwrnod yn olynol i’r Torïaid fod fymryn ar y blaen.
O ran nifer yr Aelodau Seneddol gan bob plaid, y darogan diweddaraf yw 276 i’r Torïaid a 267 i Lafur.
Mae hyn yn cadarnhau’r rhagolygon cyffredinol fod senedd grog bron yn anochel ar ôl dydd Iau.