Mae’r chwaraewr rygbi rhyngwladol Danny Jones wedi marw’n frawychus o sydyn yn 29 oed.

Cafodd ei daro’n wael ar gychwyn gêm rhwng ei glwb Keighley a London Skolars brynhawn ddoe, ac aed ag ef i’r Royal Free Hospital lle methodd pob ymgais i’w adfywio.

Mae’n gadael gwraig, Liz, ac efeilliaid pum mis oed.

Roedd wedi ennill 12 cap dros Gymru rhwng 2010 a 2013.

“Mae pawb yn Rygbi’r Gynghrair Cymru wedi cael sioc fawr o’i farwolaeth sydyn,” meddai cadeirydd Rygbi’r Gynghrair Cymru, Brian Juiff.

“Cydymdeimlwn â’i deulu, ffrindiau a chyd-chwaraewyr ar adeg mor drist.”

Dywedodd clwb Keighley mewn datganiad:

“Roedd Danny yn chwaraewr poblogaidd iawn ac uchel ei barch gan bawb yn y clwb ac yn rygbi’r gynghrair.

“Enillodd dros 1,000 o bwyntiau mewn 150 dros Keighley Cougars a bydd colled fawr ar ei ôl. “