Mae Pontypridd yn barod i greu hanes yn Stadiwm y Mileniwm heddiw wrth iddyn nhw geisio ennill eu trydydd Cwpan SWALEC o’r bron.

Pontypridd fyddai’r ail dîm i gyflawni’r gamp honno pe baen nhw’n codi’r cwpan.

Llanelli yw’r tîm arall i gyflawni’r gamp, a hynny yn nhri thymor cynta’r gystadleuaeth.

Ond eu gwrthwynebwyr heddiw, Pen-y-bont yw’r unig dîm sydd wedi curo Pontypridd yn y gynghrair y tymor hwn.

Pe bai’n codi’r cwpan heddiw, fe fyddai capten Pontypridd, Dafydd Lockyer yn ymuno â Phil Bennett a Ray Gravell ar restr ddethol iawn.

Dywedodd Lockyer: “Mae pawb yn holliach ac yn edrych ymlaen.

“Yr hyfforddwyr sydd â’r jobyn anoddaf gan mai nhw sy’n gorfod dewis y tîm ar gyfer y diwrnod mawr allan.

“Rydyn ni wedi bod yn y ffeinal bum gwaith o’r bron nawr ond dydy pethau byth yr un fath, mae bob amser yn brofiad gwahanol ac mae’r bois wir yn edrych ymlaen at ei gwneud hi’n dair o’r bron.”

Dywedodd hyfforddwr Pen-y-bont, Mike Hook am Bontypridd: “Maen nhw’n dîm da iawn ond ni yw’r unig dîm i’w curo nhw’r tymor hwn ac mae hynny’n dipyn o galondid i ni.”

Mae’r gic gyntaf am 5.35 – ac mae’r cyfan yn fyw ar S4C.