Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi addo y bydd pensiwn sylfaenol y wladwriaeth yn codi i £7,000 y flwyddyn erbyn 2020 os bydd y Torïaid yn ennill yr etholiad.

Wrth lansio maniffesto ei blaid ar gyfer pensiynwyr, sy’n anelu at gefnogaeth pleidleiswyr hŷn, addawodd y bydd gwerth y pensiwn yn cael ei warchod trwy ‘glo triphlyg’ – sef y bydd yn codi ar yr un raddfa â chwyddiant, cyflogau neu 2.5%, pa bynnag un fo’r uchaf.

“Os ydych chi wedi gwneud y peth iawn – wedi gweithio, cynilo a thalu eich trethi – fe ddylech chi gael eich gwobrwyo, nid eich cosbi,” meddai David Cameron.

“Dyna pam fy mod i’n benderfynol o wneud Prydain y wlad orau i heneiddio ynddi, gyda phensiynau diogel a’r gallu i drosglwyddo’r cartref teuluol i’ch plant.

“Ond fe fydd y cyfan mewn perygl os bydd Ed Miliband, gyda help yr SNP, yn cerdded i Downing Street yr wythnos nesaf. Fe fyddai’n golygu dychwelyd at drethi uwch, gwario a benthyca mwy, a byddai pensiynwyr yn cael eu taro’n arbennig o galed.”