Nigel Farage
Byddai’r BBC yn derbyn llai o gyllid a llai o bŵer pe bai Ukip mewn grym ar ôl yr etholiad, meddai arweinydd y blaid y bore yma.

Mae Farage wedi cyhuddo’r BBC o ffafrio’r tair prif blaid Brydeinig ac yn flin na chafodd o gynnig i ymddangos ar ddadl deledu’r BBC gyda David Cameron, Ed Miliband a Nick Clegg neithiwr.

Roedd Farage ar raglenni eraill gafodd eu darlledu ar wahân yng Nghymru a Lloegr.

Mae Arweinydd Ukip hefyd wedi canslo cyfweliad gyda BBC Radio 1 oedd i fod i gael ei gynnal heddiw.

“Pe bawn i mewn grym, buaswn yn torri llawer o’u cyllid a llawer o’r dylanwad. Mewn byd modern, mae rhoi cyllideb mor fawr i’r BBC yn anacroniaeth,” meddai’r arweinydd yn cyfeirio ar y £3.6 biliwn mae’r BBC yn ei dderbyn drwy’r drwydded deledu.

Ychwanegodd ei fod yn parhau i obeithio y bydd UKIP yn ennill mwy na “llond llaw” o seddi’r wythnos nesa, gan gynnwys ei sedd darged o, de Thanet.