Ed Miliband (PA)
David Cameron oedd wedi gwneud orau  yn rhaglenni teledu’r arweinyddion neithiwr, yn ôl arolwg barn cyflym yn union wedyn.

Fe gafodd arweinydd y Ceidwadwyr sgôr o 44% ar ôl y rhaglenni Prydeinig gydag arweinyddion y tair plaid fwya’.

Roedd Ed Miliband, yr arweinydd Llafur, ar 38% a’r Democrat Rhyddfrydol, Nick Clegg, ar 19%.

Miliband yng Nghaerdydd

Fe fydd Ed Miliband yn ceisio ennill tir yn ôl heddiw wrth ymosod ar genedlaetholdeb ac addo rhoi arian i gau’r bwlch i bobol sy’n diodde’ oherwydd y ‘dreth ar stafelloedd gwely’.

Fe fydd yn galw yng Nghaerdydd a’r Alban ar daith frys gan ddweud  mai arian i gywiro’r dreth fyddai ei gam cynta’ pe bai’n dod i rym.

Apêl i Lafurwyr yr Alban

Ond yn yr Alban, ar ôl gwrthod taro unrhyw fargen gyda phlaid genedlaethol yr SNP, fe fydd yn apelio ar bleidleiswyr Llafur yno i droi’n ôl at eu gwreiddiau.

Fe fydd yn codi enwau Albanwyr Llafur fel Keir Hardie, sylfaenydd y blaid, a’r ddau sy’n cael clod am ddatganoli, John Smith a Donald Dewar.

“Wnaeth cenedlaetholdeb erioed adeiladu ysgol neu godi pobol allan o dlodi,” yw un o’r dyfyniadau sydd wedi eu gollwng ymlaen llaw.