Y ddau leidr
Roedd dau leidr wedi peryglu eu bywydau eu hunain a phobol eraill wrth ddefnyddio silindrau nwy i achosi ffrwydradau mewn dau fainc.
Fe gafodd y ddau wyth mlynedd o garchar ac wyth a hanner am ddwyn £80,000 o fanciau ar stadau diwydiannol yn Nhrefforest a Phen-y-bont.
Roedden nhw wedi ffrwydro peiriannau dosbarthu arian.
£100,000 o ddifrod
Roedd y ddau ddyn o Fryste, Russell Bennett, 21, a Benjamin Barrett, 30, wedi achosi mwy na £100,000 o ddifrod yn y banc ar Stad Trefforest ger Pontypridd.
“Roedd diofalwch y ddau leidr yn anhygoel,” meddai’r Ditectif Arolygydd Dan Michael. “Fe wnaethon nhw beryglu eu bywydau eu hunain ac wrth gwrs fywyd unrhyw un oedd yn pasio, neu a fyddai yn y banciau yn ystod y cyrch.
“Dodd ganddyn nhw ddim gwybodaeth na rheolaeth dros bwy a allai fod yn agos a dim rheolaeth o’r ffrwydrad.”
Peryglu bywyd
Plediodd Benjamin Barrett o Bishopsworth, Bryste, a Russell Bennett, o Totterdown, Bryste wedi pledio’n euog i ddau gyhuddiad o fwrgleriaeth ac i un o gynllwyno i greu ffrwydrad a fyddai’n debygol o beryglu bywyd.
Fe gafodd Barrett wyth mlynedd a hanner o garchar, a Bennett wyth.