Mae mwy na 100 o Brydeinwyr a oedd yn Nepal adeg y daeargryn ddydd Sadwrn wedi cyrraedd yn ôl i’r DU.

Fe gyrhaeddodd yr awyren gyntaf yn cludo 120 o bobl ym maes awyr Stansted toc wedi 3 y bore ma.

Roedd plant a’r henoed ymhlith y rhai oedd ar yr awyren – gan gynnwys babi pedwar mis oed a chwpl yn eu 60au – a oedd wedi cael blaenoriaeth oherwydd cyflyrau iechyd.

Roedd y Boeing 767 wedi cludo cymorth i Nepal ddydd Sul.

Ddoe, fe gadarnhaodd yr Ysgrifennydd Tramor Philip Hammond bod Prydeiniwr wedi marw tra bod swyddogion yn cynnal ymchwiliad brys yn dilyn adroddiadau bod Prydeiniwr arall wedi marw ar fynydd Everest.

Credir bod rhwng 500 a 1,000 o Brydeinwyr yn Nepal. Mae’r rhan fwyaf yn ddiogel ond mae nifer wedi methu a chysylltu â’u teuluoedd oherwydd problemau gyda’r system gyfathrebu yn y wlad.

Mae mwy na 5,500 o bobl wedi cael eu lladd gan y daeargryn nerthol.