Mae papurau pleidleisio oedd ddim yn cynnwys enwau dau ymgeisydd lleol wedi cael eu hanfon at bron i 500 o bobol yn Hull.

Dywedodd un o’r ymgeiswyr oedd heb gael eu cynnwys, Karl Turner o’r Blaid Lafur, bod y camgymeriad yn “embaras” i’r awdurdod lleol.

Yr ymgeisydd dros y Blaid Werdd yn Kingston, Sarah Walpole, oedd yr enw arall i gael ei hepgor.

Mae’r swyddog oedd yn gyfrifol, Ian Anderson wedi ymddiheuro am y camgymeriad, gan ddweud y bydd y papurau cywir yn cael eu hanfon at bleidleiswyr mewn digon o bryd cyn yr etholiad ar 7 Mai.

“Mae’n embaras i’r awdurdod lleol. Mae’n gamgymeriad ond mae’r pethau yma’n digwydd,” meddai Karl Turner wnaeth ennill y sedd gyda mwyafrif yn 2010.

Ychwanegodd asiant y Blaid Werdd Martin Deane : “Mae’n ddifrifol gan ei bod hi’n agos iawn at ddiwrnod y bleidlais rŵan ond fe ddylai pethau fod yn iawn.”

Bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal i’r camgymeriad.