Prif Weinidog Awstralia, Tony Abbott
Mae Awstralia wedi bygwth tynnu llysgennad allan o Indonesia wedi i ddau o’i thrigolion gael eu dienyddio am gyflenwi  cyffuriau.

Roedd dau o drigolion Awstralia – Andrew Chan a Myuran Sukumaran – ymhlith wyth o bobol a gafodd eu saethu’n farw wedi i lys eu canfod yn euog.

Mae Swyddfa Uwch Gomisiynydd Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig wedi beirniadu agwedd llywodraeth Indonesia, sydd wedi galw am weithredu’n fwy trugarog tuag at eu trigolion nhw sy’n wynebu’r gosb eithaf mewn gwledydd eraill.

Cafodd dedfryd dynes o’r Philipinas, oedd hefyd wedi’i chanfod yn euog o gyflenwi cyffuriau, ei gwyrdroi ar yr unfed awr ar ddeg.

Dywedodd Prif Weinidog Awstralia, Tony Abbott cyn y cyhoeddiad fod Chan a Sukumaran wedi cael eu dienyddio, y byddai’r llysgennad Paul Grigson yn dychwelyd o Indonesia yr wythnos hon.

Dyma’r tro cyntaf i Awstralia gymryd y fath gamau yn dilyn dienyddio ei thrigolion.

Dywedodd Tony Abbott wrth gynhadledd i’r wasg: “Rydym yn parchu sofraniaeth Indonesia, ond rydym yn gwrthwynebu’r hyn sydd wedi cael ei wneud ac ni allwn barhau fel arfer.”

Mae trigolion Awstralia wedi galw am dorri cymorth ariannol sy’n cael ei roi i Indonesia a lleihau’r cydweithio rhwng y ddwy wlad ar faterion yr heddlu.

Maen nhw hefyd wedi galw ar dwristiaid i beidio teithio i ynys Bali, sydd o dan reolaeth Indonesia.

Dywed Awstralia eu bod nhw’n grac fod Sukumaran a Chan wedi cael eu dienyddio er gwaethaf apêl oedd heb ddod i ben, a’r ffaith fod arlywydd Indonesia, Joko Widodo wedi anwybyddu tystiolaeth allweddol cyn dod i benderfyniad.

Ond mae Tony Abbott yn awyddus i beidio peryglu perthynas y ddwy wlad.