Miliband
Mae David Cameron wedi rhybuddio y byddai Llafur a’r SNP yn benthyca mwy a chodi trethi, petaen nhw’n ffurfio Llywodraeth Glymblaid yn San Steffan.

Dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr bod Ed Miliband wedi methu â diystyru’r posibilrwydd y byddai yn dod i gytundeb pleidlais-wrth-bleidlais gyda Nicola Sturgeon, yn y ddadl deledu neithiwr rhwng arweinwyr y gwrthbleidiau.

Roedd Arweinydd yr SNP wedi annog Llafur i ymuno â hi i ffurfio cynghrair gwrth-Dorïaidd yn dilyn Etholiad Cyffredinol Mai’r 7fed.

Yn ôl pôl piniwn a gynhaliwyd yn syth wedi’r ddadl, roedd 45% yn ffafrio Miliband yn Brif Weinidog a 40% yn ffafrio Cameron.