Mae cwmni moduro’r AA wedi condemnio cwmnïau petrol am godi prisiau ar yrwyr, er fod pris olew’n gostwng.

Ac maen nhw wedi beirniadu’r pleidiau gwleidyddol am wneud sŵn mawr am filiau tanwydd mewn tai, ond dim am brisiau petrol.

Yn ôl yr AA, mae pris olew wedi cwympo 5% rhwng mis Mawrth a Mis Ebrill ond mae prisiau petrol a disel mewn garejus yn parhau i godi.

‘Sieciau agored’

“Mae ceir fel sieciau gwag i bwy bynnag sydd eisio talu’u ffordd trwy ddwyn o bocedi gyrwyr,” meddai Llywydd yr AA, Edmund King.

“Mae gyrwyr yn cynnal y Trysorlys trwy dalu 10% o holl gyfraniad treth y Deyrnas Unedig a nawr mae gwerthwyr petrol yn cymryd £3 y tanc yn ychwanegol ar ddisel er mwyn sefydlogi eu sefyllfa ariannol.

“Mae maniffestos yn addo gweithredu a chael trefn dryloyw ar filiau ynni cartrefi, ond dim am dryloywder ym maes tanwydd ceir.”