Y ffarm lle'r oedd y corff (PA)
Fe fydd gwylnos yn cael ei chynnal yn Sgwâr George yn Glasgow heno wedi marwolaeth y fyfyrwraig 24 oed Karen Buckley.

Cadarnhaodd heddlu lleol eu bod wedi dod o hyd i’w chorff ar fferm High Craigton ar gyrion y ddinas ddoe.

Fe fydd dyn 21 oed yn ymddangos yn Llys Siryf Glasgow heddiw ynglŷn â’i marwolaeth.

Fe aeth Karen Buckley, 24, o Gorc yng Ngweriniaeth Iwerddon ar goll ar ôl gadael clwb nos The Sanctuary yn Glasgow yn oriau mân fore dydd Sul.

Mae’r cyn-wleidydd Sosialaidd Rosie Kane, sy’n trefnu’r wylnos, yn annog pobol i ddod â blodau a chanhwyllau.