Tipu Sultan
Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i farwolaeth gweithiwr mewn bwyty prydau parod gafodd ei ddarganfod wedi’i saethu’n farw neithiwr yn chwilio am ddau ddyn gafodd eu gweld gerllaw ar feic modur.

Daethpwyd o hyd i Tipu Sultan, 32, oedd yn wreiddiol o Bangladesh gydag anaf i’w ben ger bwyty Herbs n Spice Kitchen yn South Shields am tua 10:00yh.

Bu farw yn y fan a’r lle, yn ôl parafeddygon.

Cyhoeddodd Heddlu Northymbria heddiw eu bod yn credu bod dau ddyn gafodd eu gweld ar feic modur gerllaw yn rhan o’r digwyddiad, gan ofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101.