Mae Gwasanaeth Tân ac Achub y Gogledd wedi galw ar bobol ifanc i bwyllo a meddwl am effeithiau tân gwair yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau dros yr wythnosau diwethaf.

Cafodd criwiau eu galw i dân eithin mawr ym Mlaenau Ffestiniog neithiwr gyda chriwiau ar y safle am dros ddeg awr. Credir bod y tân wedi ei gynnau’n fwriadol.

Roedd tân arall wedi cael ei gynnau ar 85 erw o dir yn Nolgellau ddoe hefyd  ond, yn yr achos hwn, roedd y tân wedi cael ei gynnau gan y tirfeddiannwr ac wedi mynd allan o reolaeth.

Dywedodd y gwasanaeth tân bod nifer o danau bychan yn ymwneud â llosgi glaswellt, eithin a rhedyn wedi cael eu cofnodi yn yr wythnosau diwethaf – rhai wedi eu cynnau’n fwriadol ac eraill o ganlyniad i beidio â diffodd sigaréts neu farbeciws yn gywir.

‘Pwysau ar adnoddau’

Meddai Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: “Mae tanau o’r math yma yn rhoi pwysau mawr ar ein hadnoddau, ac yn aml iawn mae diffoddwyr tân yn treulio oriau maith yn ceisio dod â’r tanau hyn dan reolaeth.

“Yn aml iawn mae’r tanau yn digwydd mewn ardaloedd sy’n anodd iawn i’w cyrraedd a lle mae cyflenwadau dwr yn brin.

“Rydym yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru i fynd i’r afael ag achosion o losgi bwriadol, drwy ddefnyddio hofrennydd yr heddlu i ddod o hyd i danau a chwilio am ddrwgweithredwyr.”

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am droseddau o’r fath ffonio Taclo’r Taclau yn ddienw ar  0800 555 111.