Theresa May
Mae’r Ysgrifennydd Cartref Theresa May wedi gwrthod honiadau bod prinder staff yn atal ymdrechion i fynd i’r afael â radicaleiddio Islamaidd mewn carchardai.
Daw ei sylw wedi i gyn bennaeth y Swyddfa Diogelwch Gwrthderfysgaeth Genedlaethol rybuddio fod pwysau ar adnoddau yn ei gwneud hi’n anoddach “dod o hyd i’r nodwydd mewn tas wair cynyddol o eithafwyr”.
Dywedodd Chris Phillips wrth raglen Today ar Radio 4 heddiw fod poblogaeth carchardai yn tyfu a bod llai o swyddogion carchardai i ddelio â’r carcharorion.
Ond dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref nad oedd hi’n credu mai diffyg swyddogion carchar oedd y broblem.
Meddai bod angen edrych ar y mater o radicaleiddio mewn carchardai a bod y Llywodraeth yn parhau i flaenoriaethu’r broblem.
Meddai Stephen O’Connell, llywydd Cymdeithas Llywodraethwyr Carchardai, nad oedd yn ymwybodol o unrhyw dystiolaeth fod y mater wedi gwaethygu dros y 12 mis diwethaf, neu fod y broblem wedi cael ei effeithio gan nifer y staff neu niferoedd carcharorion.
Ychwanegodd nad oedd yn herio’r honiad, ond nad oedd yn ymwybodol o unrhyw dystiolaeth oedd yn y cysylltu lefelau staffio gyda nifer y bobl sy’n cael eu radicaleiddio.