Y lori yn Afon Taf Llun: oddi ar Twitter gan @beicwrtaff
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r Afon Taf yng Nghaerdydd yn gynnar y bore yma yn dilyn adroddiadau fod lori yn yr afon.

Cafodd yr heddlu eu galw at lan yr afon yn Blackweir ym Mharc Biwt tua 5yb dydd Mawrth  lle daethon nhw o hyd i lori yn yr afon.

Nid oedd unrhyw un yn y cerbyd ac nid oes adroddiadau fod unrhyw un wedi eu hanafu hyd yn hyn.

Credir fod y lori yn berchen i Gyngor Caerdydd ac mae’r heddlu’n ymchwilio i adroddiadau bod lori wedi cael ei ddwyn dros nos.