Dzhokar Tsarnaev
Mae disgwyl i’r rheithgor yn achos un o’r dynion sydd wedi’i gyhuddo o ffrwydro bom yn ystod Marathon Boston yn 2013 ddechrau ystyried eu dyfarniad heddiw.
Mae Dzhokhar Tsarnaev, 21 oed, wedi ei gyhuddo o achosi’r ffrwydrad pan gafodd tri o bobol eu lladd a mwy na 260 eu hanafu wedi i ddau fom ffrwydro ger llinell derfyn marathon y ddinas ar Ebrill 15, 2013.
Cafodd brawd Dzhokhar Tsarnaev, Tamerlan, 26, ei saethu’n farw gan yr heddlu yn y dyddiau yn dilyn y digwyddiad.
Mae’r cyfreithiwr ar ran yr amddiffyniad, Judy Clarke, yn dadlau fod Dzhokhar Tsarnaev, a oedd yn 19 oed ar y pryd, wedi’i ddylanwadu gan ei frawd hŷn.
Ond mae’r erlyniad yn honni fod y ddau yn “bartneriaid” yn yr ymosodiad.
Mae Dzhokhar Tsarnaev yn wynebu 30 cyhuddiad, gan gynnwys saethu plismon yn farw, ac fe allai 17 o’r cyhuddiadau arwain at y gosb eithaf.
Os fydd Dzhokhar Tsarnaev yn ei gael yn euog, bydd y rheithgor yna’n dechrau clywed tystiolaeth i benderfynu a ddylai gael ei garcharu am oes neu wynebu’r gosb eithaf.