Leanne Wood
Mae Leanne Wood wedi bod yn amlinellu sut y gall Plaid Cymru elwa’r DU gyfan mewn senedd grog, gan wthio am bolisïau fyddai o fudd i Gymru a thu hwnt.
Wrth siarad gyda BBC Breakfast y bore ’ma, dywedodd Leanne Wood fod nifer o’r mesurau fyddai Plaid Cymru yn eu mynnu wrth y bwrdd trafod ar ôl yr etholiad cyffredinol wedi eu gwreiddio mewn cyfiawnder cymdeithasol a ffyniant economaidd i holl bobl y DU.
Bu’n ailadrodd ymrwymiad ei phlaid i roi terfyn ar gynllun arfau niwclear Trident, cyflwyno cyflog byw, ac addo blaenoriaethu ail-gydbwyso cyfoeth a grym Prydain yn ddaearyddol.
‘Ail-gydbwyso cyfoeth a grym’
Dywedodd Leanne Wood: “Mae Plaid Cymru yn brwydro’r etholiad hwn ar blatfform o nifer o bolisïau fyddai nid yn unig yn elwa Cymru ond y DU gyfan.
“Rydym yn cydnabod fod cymunedau ym mhob cwr o’r wladwriaeth Brydeinig wedi dioddef yn sgil agenda llymder Llywodraeth San Steffan.
“Dyna pam ein bod am ail-gydbwyso cyfoeth a grym ledled y DU er mwyn sicrhau fod ffyniant yn cyrraedd pob cornel o’r ynysoedd hyn.”
‘Senedd grog’
Ychwanegodd Leanne Wood: “Mae canlyniad yr etholiad hwn ymysg yr anoddaf i’w ragweld ers degawdau ac mae siawns gref y bydd y pleidiau llai yn dal cydbwysedd grym.
“Yn achos senedd grog, byddai Plaid Cymru yn gwthio am amryw o fesurau fyddai’n elwa holl bobl y DU. Mae’r rhain yn cynnwys cyflog byw i roi mwy o arian ym mhocedi pobl, a rhoi terfyn ar Trident er mwyn buddsoddi’r arian yn ein gwasanaethau cyhoeddus.
“Rydym hefyd eisiau gweld cynnydd o 1% o GDP yn cael ei fuddsoddi mewn isadeiledd ledled Prydain er mwyn gwella ein ffyrdd, ysgolion ac ysbytai gan greu swyddi a thwf economaidd.
“Oes nad oes un blaid yn sicrhau mandad i lywodraethu ar Fai 7, bydd Plaid Cymru yn ymddwyn fel grym er gwell i’r DU gyfan.
“O Fanceinion i Ferthyr, mae’r pleidiau sefydliadol wedi methu ein cymunedau. Yn yr etholiad hwn mae gennym gyfle digynsail i’w dal i gyfrif a sicrhau fod San Steffan yn gweithio er budd y bobl.”