Safle Wylfa Newydd ar Ynys Mon
Mae’r biliynau a fydd yn cael ei fuddsoddi yn y diwydiant niwclear yng Nghymru dros yr ugain mlynedd nesaf yn gyfle euraid i fusnesau Cymru – os ydyn nhw’n cydio yn y cyfle hwnnw, yn ol adroddiad newydd sydd wedi cael ei gyhoeddi  heddiw.

Mae’r adroddiad annibynnol gan gwmni Miler Research, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn edrych ar allu busnesau Cymru i ymateb i’r cyfleoedd sy’n cael eu cynnig gan y gadwyn gyflenwi niwclear dros yr ugain mlynedd nesaf.

Mae’r adroddiad yn amlygu’r buddsoddiad arfaethedig yn y gwaith o adeiladu a datgomsiynu pwerdai yng Nghymru; ar allu a chapsiti cwmnïau Cymru  ac ar y rhagolygon i’r busnesau os ydyn nhw’n manteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael.

Ond mae’n rhybuddio hefyd y gallai Cymru golli allan os nad yw busnesau’n mynd amdani ac yn bachu’r cyfleoedd newydd.

Swyddi

Yn ôl yr amcangyfrifon, bydd yn costio oddeutu £14 biliwn i gynllunio ac adeiladu Wylfa Newydd (tan 2024 gan ganiatau ar gyfer chwyddiant), a bydd £3.7bn arall yn cael ei fuddsoddi (tan 2033) unwaith y bydd Wylfa Newydd yn weithredol.

Yr amcangyfrif yw y byddai modd i 34% o gostau’r gwaith adeiladu newydd gael ei wario yng Nghymru. Mae disgwyl i oddeutu 6,800 o bobl gael eu cyflogi i adeiladu’r pwerdy newydd. Erbyn 2025, bydd 875 yn gweithio yn y pwerdy niwclear ei hunan.

‘Potensial enfawr’

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Edwina Hart: “Mae’r adroddiad hwn yn dangos yn glir bod i’r buddsoddiad hwn botensial enfawr a chyfleoedd heb eu hail i fusnesau Cymru. Ond mae’n nodi hefyd y materion a’r canfyddiadau y mae angen inni roi sylw iddynt os ydym i fanteisio i’r eithaf.

“Dim ond unwaith mewn cenhedlaeth y daw cyfle fel hyn, ac mae angen i bawb ymdrechu gyda’n gilydd – busnesau, y diwydiant a’r sectorau cyhoeddus a phreifat – er mwyn sicrhau bod cymaint â phosibl o’r buddsoddiad yn cael ei wario yng Nghymru.

“Bydd angen i fusnesau fwrw iddi a chymryd rhan os ydyn nhw am elwa ar y manteision a ddaw. Mae Llywodraeth Cymru’n cynnig ystod eang o gymorth i helpu busnesau i gystadlu a byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i fanteisio ar y cymorth hwnnw.”

‘Dim byd newydd’

Ond wrth ymateb i’r adroddiad, dywedodd Dylan Morgan o fudiad PAWB (Pobol Atal Wylfa B): “Ryw adroddiad dim byd yw hwn, does dim byd newydd ynddo o gwbl. Ac fe hoffwn i ofyn i Lywodraeth Cymru faint maen nhw wedi’i dalu i’r cwmni yma am wybodaeth sydd eisoes yn hysbys?

“Mae prosiect Ynys Ynni a chwmni Horizon wedi dod allan hefo ffigyrau fel hyn felly pam bod y Llywodraeth yn gwastraffu arian cyhoeddus?

“Dydyn ni ddim yn cytuno a’r adroddiad na chwaith yn argyhoeddedig y bydd y buddsoddiad yn digwydd o gwbl.

“Ac i roi hyn oll mewn cyd-destun o’r hyn sydd wedi bod yn digwydd gyda’r diwydiant niwclear ym Mhrydain eleni, maen nhw wedi cael dechrau trychinebus i 2015 – felly falle bod Llywodraeth Cymru yn teimlo bod angen rhoi hwb bach iddyn nhw gyda rhyw adroddiad dwy a dime fel hyn.”