Hayley Okines, fu farw ddoe yn 17 oed
Mae ymgyrchwraig ifanc a dreuliodd ei hoes yn codi ymwybyddiaeth am y cyflwr prin yr oedd hi’n diodde’ ohono, wedi marw yn 17 oed.
Mae’r cyflwr Progeria yn achosi i ddioddefwyr heneiddio wyth gwaith yn gynt nag arfer.
Ac fe ddaeth Hayley Okines, o Bexhill, yn Nwyrain Sussex, yn wyneb cyfarwydd ar deledu. Ei mam gyhoeddodd ei marwolaeth ar wefan gymdeithasol Facebook neithiwr, gan ddatgan fod “fy mabi bach wedi mynd i le gwell”.
Fe dreuliodd Hayley a’i theulu flynyddoedd yn codi arian er mwyn iddi gael triniaeth feddygol, ynghyd ag er mwyn codi ymwybyddiaeth am y cyflwr.
Pan oedd hi’n 14 oed, fe gyhoeddodd Haylwy Okines ei hunangofiant dan y teitl, Old Before My Time.