Syria - grwp o Brydeinwyr wedi ceisio mynediad o Dwrci
Mae un o’r naw Prydeiniwr sydd wedi’u dal yn Nhwrci ar amheuaeth o geisio croesi’r ffin i Syria, yn fab i gynghorydd Llafur.
Mae Shakil Ahmed, y cynghorydd sy’n cynrychioli ward Kingsway ar Gyngor Rochdale, yn dweud ei fod am i’w fab, Waheed, ddod adref “gynted a phosib er mwyn gallu trafod yr hyn sy’n digwydd”.
Mae’r grwp o bump oedolyn a phedwar o blant yn cael eu dychwelyd i wledydd Prydain, wedi iddyn nhw gael eu rhwystro yn nhalaith Hatay ddydd Mercher.
Mae Heddlu Greater Manchester Police wedi cadarnhau eu bod yn dal i geisio sefydlu pam fod y naw yn awyddus i groesi’r ffin i mewn i Syria.
Ymhith y naw y mae Waheed Ahmed; ei fodryb, Zadia Bi; dau o feibion Zadia Bi; ac un o wragedd y meibion hynny.
Mae’r grwp yn cynnwys dwy ddynes, 47 a 22 oed; tri dyn 24, 22 a 21 oed; a phedwar o blant 1, 3, 8 ac 11 mlwydd oed.