Cafodd cwmni egni E.ON eu gorchymyn i gyflwyno £7.75 miliwn i’r gwasanaeth cynghori Cyngor ar Bopeth, gan reoleiddwyr y diwydiant, Ofgem.

Roedd hynny’n gosb am godi ffioedd annheg ar gwsmeriaid, yn dilyn cynnydd prisiau.

Fe fydd y pecyn ariannol yn helpu cwsmeriaid bregus yn ychwanegol at y £400,000 y mae E.ON esioes wedi’i dalu’n ôl i gwsmeriaid.

Dywedodd Ofgem fod y gosb yn adlewyrchu‘r ffaith fod E.ON yn torri rheolau bilio yn barhaus ac roedden nhw wedi codi ffi pan oedd cwsmeriaid yn eu gadael ar ôl cynnydd prisiau fis Ionawr 2013 a 2014.

Yn ôl Ofgem, does gan gwmnȉau egni ddim hawl i godi ffioedd i gwsmeriaid sy’n penderfynu mynd at gwmni arall.