Mae’r grwp eithafol Al Shabab wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad sy’n parhau ar gampws Prifysgol Garissa yng ngogledd-ddwyrain Kenya, sydd wedi lladd o leiaf 15 o bobl, gan anafu 60 hyd yma, yn ôl llygad dystion.
Mewn darllediad radio, cyhoeddodd Ali Mohamud Rage fod y grwp yn cynnal ymgyrch filwrol oddi fewn i’r campws yn Kenya.
Mae’r lluoedd diogelwch yn parhau i geisio cornelu’r dynion arfog mewn neuadd breswyl yn y Brifysgol, gyda llygad dystion yn disgrifio golygfeydd erchyll wrth i bobl gael eu saethu yn ddiseremoni, gyda bwledi yn hedfan i bob cyfeiriad.
Mae’r Heddlu a’r fyddin wedi amgylchynu’r neuadd breswyl ac yn ceisio sefydlogi’r ardal. Cafodd y bobl sydd wedi dioddef anafiadau difrifol eu hedfan i ysbyty yn Nairobi i dderbyn triniaeth.
‘Saethu Cristnogion’
Fe ddywedodd dirprwy gadeirydd yr Undeb Myfyrwyr, Collins Wetangula, ei fod yn paratoi i gymryd cawod pan glywodd ergydion gwn yn dod o’r neuadd breswyl gerllaw. O ganlyniad, fe glodd ei hun yn yr ystafell.
“Yr unig beth y medrwn glywed oedd swn camau a ergydion gwn. Roedd y dynion arfog yn dweud Ni yw Al-Shabab,” meddai.
“Pan gyrrhaeddodd y dynion arfog y neuadd breswyl, fe glywodd hwy yn agor y drws yn gofyn i’r bobl oedd yn cuddio tu fewn os oeddynt yn Fwslemiaid neu yn Gristnogion.
“Os oeddet ti yn gristion, roeddet yn cael dy saethu yn y fan a’r lle. Gyda phob ergyd gwn, mi oeddwn i meddwl fy mod yn mynd i farw.
“Dechreuodd y dynion arfog i saethu yn ddi-dor, gyda theimlad fod yna bobl eraill yn saethu tuag atynt.”
Brawychwyr
Mae mudiad Al Shabab yn cael ei gysylltu gydag Al Qaeda ac wedi addo dial yn erbyn Kenya am anfon milwyr i Somalia, i ymladd gwrthryfelwyr yn 2011.
Mae eisoes wedi achosi sawl digwyddiad brawychol yn y wlad.