Fe ddylai plant ysgol gael dysgu trwy chwarae yn y dosbarth tan eu bod nhw’n saith oed, yn ôl yr undeb addysg mwya’.
Barn aelodau’r Undeb Genedlaethol i Athrawon (NUT) yng Nghymru a Lloegr yw nad yw llawer o blant ifanc yn barod i eistedd i lawr wrth ddesg i wneud tasgau darllen ac ysgrifennu wrth ddechrau’r ysgol.
Mae disgwyl i’r undeb alw am gael “chwarae yn y cwricwlwm” yn ei gynhadledd flynyddol yn Harrogate y penwythnos yma, gan ddadlau y byddai’n gweddu plant ifanc yn well na gwersi ffurfiol.
Eisoes mae’r Cyfnod Sylfaen yng Nghymru yn rhoi pwyslais mawr ar ddysgu trwy chwarae ond dyw’r polisi ddim wedi ei fabwysiadu yn Lloegr.
Hawl i chwarae
Yn ogystal, mae disgwyl i’r undeb ddweud bod amser cinio ac amser chwarae ar hyn o bryd yn cael e ddefnyddio i wneud mwy o waith ysgol, gan amddifadu plant o’u hawl i chwarae a chymdeithasu.
Dylai ysgolion ddilyn esiampl gwelydd fel y Ffindir sydd wedi cyflwyno gwersi 45 munud a chyfnod chwarae o 15 munud i ddilyn, meddai’r undeb.
“Mae cwestiynau’n codi a ydyn ni’n disgwyl i blant wneud pethau nad ydyn nhw’n barod i’w gwneud eto,” meddai ysgrifennydd cyffredinol undeb yr NUT, Christine Blower.