Ed Miliband
Mae’r Ceidwadwyr y mymryn lleia’ ar y blaen i Lafur ym mholau piniwn yr wythnos ddiwetha’.
Ond mae o leia’ un arolwg hefyd yn awgrymu bod stoc Ed Miliband, yr arweinydd Llafur, wedi codi yn sgil y rhaglen deledu etholiadol yr wythnos ddiwetha’.
Trwy gymryd cyfartaledd polau saith niwrnod, mae’r Ceidwadwyr bellach ar 34.2% a Llafur ar 34.1%.
Mae’r ddwy brif blaid wedi cryfhau ar draul UKIP a’r Gwyrddion ond mae’r cyfan yn awgrymu na fydd gan neb fwyafrif clir yn y senedd nesa’.
Miliband yn ennill tir
Fe ddaw’r newyddion da i Ed Miliband mewn arolwg gan YouGov, sy’n dangos agweddau mwy ffafriol ato ers ei ymddangosiad ar y cyfweliadau etholiad.
Mae canran y rhai sy’n credu ei fod wedi dangos ble mae’n sefyll wedi codi o 30% i 38%.
Mae canran y rhai sy’n credu ei fod yn arweinydd cry’ wedi codi o 20% i 30% ers mis Chwefror.
Ac, er fod 46% yn dal i ddweud na allai wneud gwaith Prif Weinidog, mae hynny i lawr o 59% ym mis Chwefror.
Pigion yr ymgyrchu
Ymhlith pigion yr ymgyrchu Prydeinig heddiw, mae:
Addewid gan y Canghellor George Osborne na fyddai Llywodraeth Dorïaidd yn codi treth incwm nac yswiriant cenedlaethol – hynny ar ben addewid i beidio â chodi Treth ar Werth chwaith.
Ed Miliband yn ateb beirniadaeth gan 103 o arweinwyr busnes trwy ddweud bod y Ceidwadwyr yn blaid i’r ychydig cyfoethog a Llafur yn blaid i deuluoedd sy’n gweithio.
Y Democratiaid Rhyddfrydol yn addo treblu amser o’r gwaith i dadau newydd – o bythefnos i chwech wythnos.