Cyflwynwyr newydd Stwnsh
Mae S4C wedi cyhoeddi pwy fydd y wynebau newydd ar raglenni Stwnsh a Cyw, wrth i’r sianel wneud newidiadau i’w rhaglenni adloniant i blant.

Mae hynny, medden nhw, er mwyn “symud gyda’r oes” lle mae plant a phobol ifanc yn defnyddio llawer rhagor ar y cyfryngau newydd.

Bydd Aled Haydn Jones a’r gantores Kizzy Crawford yn ymuno â Geraint Hardy fel rhai o’r wynebau newydd ar raglenni Stwnsh, fydd yn darlledu rhwng 5 a 6 o’r gloch y prynhawn yn ystod yr wythnos, ac ar foreau Sadwrn.

Bydd y tri ohonynt yn cyflwyno rhaglen newydd o’r enw Llond Ceg.

Cantores arall, Catrin Herbert, fydd cyflwynydd newydd Cyw ar gyfer plant bach, ac mae’r sianel yn dweud y byddan nhw’n cyhoeddi rhagor o enwau yn ystod y misoedd nesa’.

Cyflwynwyr yn gadael

Mae’r newidiadau’n golygu na fydd cyflwynwyr cyfarwydd Stwnsh dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys Anni Llyn, Lois Cernyw, Owain Gwynedd a Tudur Philips, i’w gweld yn rheolaidd ar y gwasanaeth bellach, er y byddan nhw yn dal i leisio ar gyfer rhai o raglenni’r gwasanaeth.

Dywedodd y sianel y byddai Einir Dafydd, Gareth Delve a Rachel Solomon yn parhau ar raglenni Cyw yn cynorthwyo Catrin Herbert.

Bydd arlwy newydd Stwnsh yn cynnwys rhaglenni poblogaidd fel TAG a Fi yw’r Bos yn ogystal â chyfres newydd o’r enw Llond Ceg.

Dywedodd S4C y byddai mwy o gynnwys digidol yn cael ei roi ar y we er mwyn cael eu defnyddio ar dabledi a ffonau, gan gynnwys clipiau cerddoriaeth a gemau.

Bydd y newidiadau hynny yn golygu symud i ffwrdd o’r drefn ddiweddar gyda chyflwynwyr bellach ddim yn chwarae rhan mor amlwg ar y rhaglenni.

‘Symud gyda’r oes’

“Fe fydd Stwnsh yn cynnig gwasanaeth digidol ar raddfa fwy fyth ac mae delwedd a brand y gwasanaeth yn adlewyrchu hynny,” meddai Comisiynydd Cynnwys Plant S4C, Sioned Wyn Roberts.

“Rydyn ni wedi gwrando ar blant a phobol ifanc Cymru ac mae rhaid i bethau symud gyda’r oes.

“Mae mwy a mwy o blant a phobl ifanc yn defnyddio cyfarpar fel ffonau clyfar a thabled a bydd rhaglenni’n eu tynnu’n naturiol i fyd digidol Stwnsh gyda dewis o apiau, gemau a rhaglenni ecsgliwsif.”

Mae rhaglenni plant Stwnsh wedi eu hanelu at blant rhwng 7 a 13, a Cyw, sydd ar gyfer rhai hyd at 6 oed.