Mae cwmni llyfrau o Morocco wedi dangos diddordeb mewn cynhyrchu fersiynau o lyfrau Cymraeg Sali Mali.
Fe ddechreuodd trafodaethau trwy Gyfnewidfa Lyfrau Cymru er mwyn trosi’r llyfrau i blant bach i Arabeg.
Ar ôl trafodaethau cynnar yn Ffair Lyfrau Frankfurt y llynedd, y gobaith yw y bydd y llyfrau cynta’n ymddangos yn yr haf.
Mae sawl fersiwn o’r llyfrau wedi bod ers y rhai gwreiddiol ac mae Golwg360 yn deall bod y trafodaethau hawlfraint yn gymhleth.
Addasu
Fe fydd angen addasu rhywfaint ar y llyfrau hefyd er, yn ôl y Gyfnewidfa, mai dim ond mater o newid enwau yw’r rhan fwya’.
“Mater o sillafu yw hynny’n aml,” meddai llefarydd. “Fe fydd Nicw Nacw yn troi’n syml yn Niqou Naqou a Jac y Jwc yn Jacques de Jouque – gan fod dylanwad Ffrengig yn gry’ ym Morocco.
“Fe fydd y newid mwya’ i gymeriad Sali Mali ei hun. Fe fydd y cymeriad yn cael ei droi’n ddyn dan yr enw Salim Ali.”
Fe fydd cymeriad newydd yn cael ei gyflwyno hefyd. Ffou Lebrill.