Nicola Sturgeon (PA)
Fe allai’r Alban gael refferendwm arall ar annibyniaeth yn y blynyddoedd nesa’ yn ôl awgrym gan arweinydd plaid yr SNP.

Mae papurau yn yr Alban yn pwysleisio sylw gan Nicola Sturgeon yn dweud y byddai’n ystyried addewid am refferendwm ym maniffesto’r blaid ar gyfer etholiadau Senedd yr Alban.

Ond fydd hynny ddim yn digwydd ym maniffesto’r Etholiad Cyffredinol, meddai’r wraig a ddaeth yn Brif Weinidog yr Alban ar ôl methiant yr ymgyrch Ie yn y refferendwm diwetha’.

Fe ddywedodd ddoe ei bod yn credu y byddai yna refferendwm arall ac y byddai pobol yr Alban yn pleidleisio tros annibyniaeth – ond allai neb orfodi’r bobol i wneud hynny.

Mae polau piniwn diweddar yn awgrymu y byddai mwyafrif o bobol yr Alban bellach o blaid annibyniaeth.

Cefnogi Llafur – ond dim clymblaid

Fe wnaeth Nicola Sturgeon yn glir eto y byddai’r SNP yn fodlon cefnogi llywodraeth Lafur leiafrifol fesul pwnc.

Ond fe fyddai bwriad y Blaid Lafur i brynu fersiwn newydd o arfau niwclear Trident yn eu rhwystro rhag mynd i glymblaid ffurfiol.