Ysbyty John Radcliffe, Rhydychen
Dynes o wledydd Prydain yw’r person cyntaf i dderbyn triniaeth arloesol ar gyfer anorecsia.

Mae’r driniaeth yn golygu rhoi electrodau yn yr ymennydd er mwyn i’r darn sy’n derbyn bwyd roi teimlad o hapusrwydd i’r claf.

Nod y driniaeth yw newid y ffordd y mae dioddefwyr yn meddwl am fwyd, a’u helpu i fwyta’n iach er mwyn goresgyn eu cyflwr.

Ond mae’r Athro Tipu Aziz o Ysbyty John Radcliffe yn Rhydychen yn rhybuddio bod y driniaeth yn ei chyfnod cynnar.

“Mae cyfradd marw pobol ag anorecsia 40 gwaith yn uwch na’r boblogaeth gyffredin ac mae pobol yn anghofio hynny.

“Mae pobol sy’n iach fel arall, merched yn bennaf, yn marw oherwydd yr afiechyd yma.”

Ychwanegodd fod y cyflwr yn golygu bod nam ar ran yr ymennydd sy’n hoffi bwyd.

“Dyma astudiaeth gynnar iawn i ddangos, os ydych chi’n rhoi electrodau yn y lle cywir, y gallwch chi newid ymateb pobol i fwyd.”

Mae’r driniaeth yn costio oddeutu £40,000 ar hyn o bryd, a dydy’r canlyniadau ddim yn amlwg am hyd at flwyddyn.

Ond mae gan 1.6 miliwn o bobol anhwylder bwyta yng ngwledydd Prydain, ac 89% ohonyn nhw’n fenywod.

Mae’r driniaeth yn seiliedig ar driniaeth debyg yn Tsieina a Chanada, ac fe gafodd ei hariannu gan elusennau.

Fe allai’r tîm yn Rhydychen gynnig y driniaeth i bump o bobol eraill yn y dyfodol agos, a allai arwain at brosiect ehangach o lawer.