Y Tywysog Siarl
Mae’r Goruchaf Lys wedi dyfarnu y dylai llythyrau preifat rhwng y Tywysog Siarl a Llywodraeth Prydain gael eu cyhoeddi.

Fe wrthododd y llys apêl gan y Twrne Cyffredinol, Dominic Grieve, oedd wedi ceisio herio penderfyniad y Llys Apêl ei fod wedi torri’r gyfraith wrth atal y llythyrau rhag cael eu cyhoeddi.

Y Twrne Cyffredinol yw prif ymgynghorydd cyfreithiol y llywodraeth, sydd wedi brwydro i geisio cadw’r llythyrau yn ddirgel.

Fe allai cyhoeddi’r llythyr daflu golau newydd ar y berthynas rhwng y Tywysog Siarl a’r Llywodraeth, gan gynnwys sut y mae wedi ceisio dylanwadu ar bolisïau.

Mae’r tywysog a’r Llywodraeth wedi mynegi siom â’r penderfyniad, ond mae eraill wedi croesawu’r cam fel un agored a thryloyw fydd yn hybu democratiaeth.

‘Dim rheswm da’

Wrth ddyfarnu o blaid penderfyniad gwreiddiol y Llys Apêl, dywedodd y Goruchaf Lys nad oedd “rheswm da” gan y Twrne Cyffredinol i ddefnyddio feto weinidogol i geisio atal y llythyrau rhag cael eu cyhoeddi.

Cafodd y llythyrau eu hanfon gan y Tywysog Siarl yn 2004 a 2005 i Lywodraeth Tony Blair, ac yn ôl Dominic Grieve maen nhw’n datgelu “barn a chredoau mwyaf personol a dwfn” y tywysog.

Mae’r Tywysog Siarl wedi cael ei gyhuddo yn y gorffennol o ymosod ar bolisïau’r llywodraeth gan ddefnyddio memos o’r fath, ac mae ganddo farn gref ar bynciau megis yr amgylchedd, amaeth, meddyginiaeth a phensaernïaeth.

Cafodd y penderfyniad ei wneud ar ôl deng mlynedd o heriau cyfreithiol, a ddechreuodd gyda’r Guardian yn gwneud cais i weld y llythyrau rhwng y tywysog a gweinidogion yn y llywodraeth.

Siom y tywysog

Mewn ymateb fe ddywedodd llefarydd ar ran y Tywysog Siarl ei fod yn siomedig gyda’r dyfarniad.

“Mae hwn yn fater i’r Llywodraeth. Mae Clarence House yn siomedig nad yw’r egwyddor o breifatrwydd wedi cael ei barchu,” meddai’r llefarydd.

Dywedodd y Prif Weinidog David Cameron ei fod yntau’n siomedig â’r penderfyniad, gan ddweud y dylai aelodau o’r teulu brenhinol gael dweud eu barn wrth y llywodraeth yn breifat.

Roedd y Twrne Cyffredinol  eisoes wedi dweud y byddai datgelu bod y tywysog wedi anghytuno â’r llywodraeth yn “niweidiol i’w rôl yn y dyfodol” fel brenin, oherwydd yr egwyddor bod y teulu brenhinol yn aros yn niwtral ar faterion gwleidyddol.

‘Diwrnod da i dryloywder’

Wrth ymateb i’r dyfarniad rhoddodd olygydd y Guardian Alan Rusbridger glod i’r gohebydd Rob Evans a’r tîm fu’n ymgyrchu  i ddatgelu’r llythyrau.

“Mae’r llywodraeth wedi gwastraffu cannoedd ar filoedd o bunnoedd yn ceisio cuddio’r llythyrau hyn, gan gyfaddef y byddai eu cyhoeddi yn gwneud ‘niwed sylweddol’ i niwtraliaeth y Tywysog,” meddai Alan Rusbridger.

“Nawr mae’n rhaid iddyn nhw eu cyhoeddi fel bod y cyhoedd yn gallu dyfarnu dros eu hunain.

“Mae hwn yn ddiwrnod da i dryloywder mewn llywodraeth ac mae’n dangos pa mor bwysig yw cael barnwriaeth hollol annibynnol a gwasg rydd.”

Mae grŵp Republic, sydd yn ymgyrchu i gael gwared â’r frenhiniaeth, hefyd wedi ymateb i’r dyfarniad heddiw.

“Mae unrhyw risg i’r frenhiniaeth yn ddim o’i gymharu â’r risg i ddemocratiaeth o gael tywysog ymgyrchol sydd yn gweithredu’n ddirgel,” meddai Republic.