Tair merch o Brydain sydd wedi ffoi i Syria i ymuno ag IS
Fe allai rhagor o bobl adael Prydain i ymuno â’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) os nad oes mwy yn cael ei wneud i dargedu’r rheiny sydd â’r risg mwyaf o ddilyn trywydd eithafol.

Dyna rybudd Aelodau Seneddol mewn adroddiad gan y Pwyllgor Dethol Materion Cartref, a ddywedodd bod angen i gysylltiadau rhwng yr heddlu, ysgolion a rhieni “wella’n sylweddol”.

Dywedodd yr ASau bod angen ennill “calonnau a meddyliau” y rheiny oedd yn ystyried mynd dramor i ymladd gydag IS.

Un awgrym gafodd ei wneud oedd sefydlu gwasanaeth i roi cyngor i rieni oedd yn pryderu am radicaliaeth.

‘Ar ymyl dibyn’

Daw’r adroddiad ar ol i dair merch ysgol o Brydain – Amira Abase, Shamima Begum a Kadiza Sultana –ffoi i Syria i ymuno ag IS.

Cafodd tri bachgen o Brent yn Llundain eu hatal yn Nhwrci wrth iddyn nhw geisio gwneud yr un peth.

Ac yn ôl cadeirydd y pwyllgor o ASau, mae angen gwella’r cysylltiadau rhwng yr heddlu a rhieni i atal hyn rhag digwydd eto.

“Mae hyn yn dystiolaeth o ba mor bwysig yw hi i weithio’n agos â chymunedau, teuluoedd a phartneriaid rhyngwladol i daclo’r bygythiad cynyddol yma,” meddai Keith Vaz.

“Mae’n rhaid iddi fod yn frwydr diwyro am galonnau a meddyliau, a heb naratif amgen cryf rydyn ni mewn perygl o fethu ag atal rhagor rhag gadael. Rydyn ni ar ymyl dibyn.”

Cyfryngau cymdeithasol

Mae llawer o bobl o dramor wedi cael eu recriwtio dros y we gan IS i fynd i ymladd yn Syria ac Irac, yn aml drwy wefannau cymdeithasol.

Dywedodd y pwyllgor fod angen i gwmnïau fel Facebook a Twitter fod yn fwy parod i gau cyfrifon oedd yn ceisio hybu radicaliaeth ymosodol.

Ond fe gyfaddefodd yr ASau bod “plismona gwefannau cymdeithasol yn amhosib” ac mai dysgu pobl ifanc sut i anwybyddu cynnwys o’r fath roedden nhw’n dod ar ei draws oedd yr ateb.

Dywedodd llefarydd ar ran Scotland Yard nad oedden nhw’n ymwybodol fod y pwyllgor o ASau wedi bod yn edrych ar y mater a’u bod nhw wedi “synnu” pan gyhoeddwyd yr adroddiad.

Ychwanegodd y llefarydd y byddai’r heddlu yn edrych ar yr adroddiad “mewn mwy o fanylder”, ond y bydden nhw wedi hoffi gallu rhoi tystiolaeth eu hunain i’r Aelodau Seneddol.