Coleg Gwent
Mae Coleg Gwent wedi cynnig diswyddiadau gwirfoddol i staff wrth iddyn nhw geisio delio â thoriad o £5.7m i’w cyllideb.
Fe allai hynny olygu bod hyd at 130 o swyddi yn y fantol, a hynny oherwydd toriad o £29.9m mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gyllideb addysg uwch.
Cyrsiau rhan amser sydd yn debygol o gael eu heffeithio, a hynny o fis Medi eleni, gyda’r coleg yn dweud y byddan nhw’n gwarchod eu cyrsiau llawn amser.
Dywedodd pennaeth Coleg Gwent Jim Bennett y byddai’r toriadau yn cael effaith “ddifrifol iawn” ar fyfyrwyr, swyddi a chymunedau yng Nghymru.
Beio San Steffan
Fe fydd Coleg Gwent, sydd â safleoedd yng Nglyn Ebwy, Casnewydd, Cross Keys, Pont-y-pŵl a Brynbuga, nawr yn cynnal ymgynghoriad â staff ac undebau ynglŷn â’r camau nesaf.
Mae Jim Bennett eisoes wedi dweud y gallai hyd at 50% o gyrsiau rhan amser y coleg fod o dan fygythiad oherwydd y toriadau.
Mae colegau eraill hefyd yn wynebu toriadau sylweddol i’w cyllideb, gyda Choleg Castell Nedd Port Talbot yn gweld gostyngiad o £4m, a thoriad o £2.5m i Goleg Sir Gar yn bygwth 60 o swyddi.
Ac mae pennaeth Coleg Gwent wedi awgrymu mai ar lywodraeth San Steffan y mae’n rhoi’r bai.
“Rydw i’n deall y pwysau mae Llywodraeth Cymru yn ei wynebu gyda’u cyllid nhw o San Steffan yn cael ei leihau, ond bydd gwir effaith y toriadau yma ar ddysgwyr, swyddi, cymunedau a phobl Cymru yn ddifrifol iawn,” meddai Jim Bennett.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod San Steffan wedi torri £1.4biliwn o’u cyllid ers 2010, a bod hynny’n golygu bod “penderfyniadau anodd wedi gorfod cael eu gwneud”.