Llong danfor Trident
Mae pedwar o bob pump o ymgeiswyr seneddol wedi dweud eu bod nhw’n gwrthwynebu disodli Trident, yn ôl adroddiad gan ymgyrchwyr tros ddiarfogi niwclear.

Fe fydd ymgeiswyr Plaid Cymru ymhlith nifer o ymgeiswyr seneddol o bob plaid sy’n cymryd rhan mewn gorymdaith yn San Steffan heddiw.

Yn ôl yr ymgyrchwyr, mae’r rhan fwyaf o’r 500 a gafodd eu holi’n gwrthwynebu adnewyddu Trident, ac mae’r CND yn dweud bod y gwrthwynebiad i wario biliynau o bunnoedd ar arfau niwclear ar gynnydd ar draws y sbectrwm gwleidyddol.

‘Ceidwadwyr yn ynysig’

Yn ôl ysgrifennydd cyffredinol y CND, Kate Hudson, mae safbwynt y Ceidwadwyr ynghylch Trident yn unigryw.

“Tra bod David Cameron yn ceisio codi ofn ynghylch trafodaethau posib o ran y glymblaid, a’u heffaith bosib ar olynydd i Trident, mae’r Ceidwadwyr yn gynyddol ynysig yn y mater hwn.

“Mae’r holl brif bleidiau eraill yn agored i drafod a oes gwir angen i Brydain wario £100 biliwn ar system arfau’r Rhyfel Oer y mae uwch swyddogion y fyddin wedi eu disgrifio fel hollol ddibwrpas.”

Mae’r Blaid Lafur eisoes wedi dweud eu bod nhw’n barod i ystyried cwtogi ar y system arfau niwclear, mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn gwrthwynebu adnewyddu’r llongau tanfor ac mae Plaid Cymru, yr SNP a’r Blaid Werdd am waredu Trident yn gyfan gwbl.

‘Gwarth’

Dywedodd arweinydd yr SNP yn San Steffan, Angus Robertson fod gwariant ar Trident yn “warth”.

Ychwanegodd arweinydd y Blaid Werdd, Natalie Bennett: “Mae’n galonogol gweld y fath wrthwynebiad cryf i Trident ymhlith ymgeiswyr seneddol.

“Mae pobol yn effro i’r ffaith y bydden ni’n fwy diogel heb yr arfau dinistriol hyll yma yng ngwledydd Prydain…”