Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i ymosodiad rhywiol honedig ar ferch 20 oed yng nghanol dinas Caerdydd.
Daeth adroddiad yn oriau man y bore ‘ma bod yr ymosodiad wedi digwydd ar Lon Great Western.
Mae’r ardal wedi cael ei chau gan yr heddlu ac mae’r ferch yn derbyn cefnogaeth gan staff arbenigol.
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â’r heddlu ar 101 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 1500102463.