Nigel Farage
Mae Nigel Farage wedi cyhoeddi mai cyn aelod o’r Blaid Lafur fydd ymgeisydd newydd UKIP yn  Folkestone a Hythe, ar ôl i  Janice Atkinson gael ei diarddel dros honiadau o dwyll treuliau.

Bydd cyn gadeirydd Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol Llafur, Harriet Yeo, yn cymryd lle Janice Atkinson, yr ASE ar gyfer y de-ddwyrain, a gafodd ei diarddel o’r blaid gan banel disgyblu ynghyd â’i chynorthwyydd Christine Hewitt.

Honnir bod Christine Hewitt wedi cael ei ffilmio gan bapur y Sun yn ceisio cael anfoneb gan fwyty am swm oedd dair gwaith yn fwy na chost y digwyddiad, gyda’r bwriad o hawlio’r arian yn ôl gan Frwsel.

Mae’r fideo yn cael ei adolygu gan uned troseddau difrifol heddlu Caint ac Essex ar ôl i’r heddlu dderbyn adroddiad o dwyll.

Mae Janice Atkinson wedi dweud ei bod hi’n “siomedig iawn” gyda’r penderfyniad ac yn bwriadu apelio.

Bydd Harriet Yeo brwydro am sedd Folkestone a Hythe lle mae’r Ceidwadwr Damian Collins yn amddiffyn mwyafrif o 10,122.

Wrth siarad yn y Grand Hotel yn Folkestone, dywedodd Harriet Yeo: “Rwy mor falch o fod yn gallu cynrychioli Folkestone a Hythe ar ran UKIP.

“Cefais fy ngeni yng Nghaint, rwy’n byw yng Nghaint ac yn gweithio yng Nghaint.  Mae’r sir hon angen rhywun i roi pobl  Caint yn gyntaf.”