Trefor Lloyd Hughes
Mae llywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru Trefor Lloyd Hughes wedi methu yn ei ymgais i gael ei ethol fel is-lywydd FIFA Prydain mewn pleidlais yn ystod Cyngres UEFA yn Fienna.

Cyfarwyddwr Manchester United David Gill a gafodd ei ethol. Bydd Gill, sydd hefyd yn is-gadeirydd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr, yn cymryd lle Jim Boyce o Ogledd Iwerddon ym mis Mai a bydd yn treulio cyfnod o bedair blynedd ar bwyllgor gwaith FIFA ar ran gwledydd y DU.

Fe wnaeth David Gill, sy’n 57 oed, guro Trefor Lloyd Hughes o 43 o bleidleisiau i 10 yn y bleidlais ymhlith 54 o genhedloedd sy’n aelodau o UEFA.

Yn ôl cytundeb gafodd ei wneud rhwng gwledydd Prydain yn 2011 fe fyddai pob gwlad yn cymryd ei thro i enwebu rhywun, a thro Cymru fyddai hi wedi bod yn 2015.

Ond roedd FA Lloegr wedi dadlau bod y cytundeb hwnnw bellach ddim yn berthnasol oherwydd newidiadau i’r drefn o enwebu is-lywyddion FIFA, ac wedi gwrthod cefnogi enwebiad CBDC.

‘Cwestiynau anodd’

Mae cadeirydd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr, Greg Dyke, wedi dweud ei fod am i David Gill ofyn cwestiynau anodd a chadw llygad ar benderfyniadau ariannol pan fydd ar bwyllgor gwaith FIFA.

Yn gynharach, methodd Trefor Lloyd Hughes a llywydd Cymdeithas Bêl-droed yr Alban, Campbell Ogilivie, yn eu hymgais i gael eu hethol i bwyllgor gweithredol UEFA.

Mae’r enwau newydd sydd wedi eu hethol ar bwyllgor gweithredol UEFA yn cynnwys cyn ymosodwr Croatia Davor Suker, a chyn gol geidwad Bwlgaria Boris Mikhailov.