Mae’r Scarlets wedi cadarnhau fod y prop pen rhydd Rob Evans wedi arwyddo ymestyniad i’w gytundeb gyda’r rhanbarth.

Fe enillodd Evans ei gap cyntaf dros Gymru bythefnos yn ôl yn erbyn Iwerddon, ac mae eisoes wedi chwarae 19 o weithiau dros y Scarlets y tymor hwn.

Mae’n ymuno â Liam Williams a Ken Owens sydd hefyd wedi arwyddo cytundebau newydd gyda’r rhanbarth yn ddiweddar.

Yn ogystal â hynny mae Samson Lee, Jake Ball, Rhodri Jones a Scott Williams wedi arwyddo cytundebau deuol gyda’r Scarlets ac Undeb Rygbi Cymru’r tymor hwn.

“Dw i wedi tyfu lan yn cefnogi’r Scarlets a fi wir yn mwynhau fy rygbi gyda’r rhanbarth ar y funud,” meddai Rob Evans.

“Dwi’n edrych ymlaen at orffen tymor sydd wedi bod yn wych hyd yn hyn, i fi yn bersonol, ar nodyn uchel wrth helpu’r Scarlets i orffen yn y chwech uchaf a sicrhau lle yn y prif dwrnament rygbi Ewropeaidd.”