Ysgrifennydd Cartref, Theresa May
Bydd yr Ysgrifennydd Cartref, Theresa May yn apelio ar Fwslimiaid er mwyn helpu i fynd i’r afael ag eithafiaeth wrth iddi fynnu na ddylai’r DU oddef y rhai sy’n gwrthod ei gwerthoedd.

Bydd yr Ysgrifennydd Cartref yn dweud bod y rhyddid sydd ar gael yn y DU yn dod gyda “chyfrifoldebau” i barchu’r ffordd mae pobl eraill yn byw, democratiaeth, cydraddoldeb a’r gyfraith.

Mae disgwyl i Theresa May amlinellu argymhellion ehangach i fynd i’r afael â’r hyn y mae hi’n dadlau sy’n lefel gynyddol o eithafiaeth.

Fodd bynnag, mae’n debyg na fydd ei chynlluniau’n cynnwys mesurau fel pwerau statudol i weinidogion allu gwahardd pregethwyr eithafol mewn prifysgolion a cholegau – polisi sydd wedi cael ei wrthwynebu’n ffyrnig gan y Democratiaid Rhyddfrydol.

Bydd Theresa May yn dweud bod eithafiaeth yn amlygu ei hun mewn hiliaeth, gwrth-semitiaeth, homoffobia a rhywiaeth – ond mai’r broblem “mwyaf difrifol a helaeth” yw eithafiaeth Islamaidd.

Hefyd, mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Cartref roi manylion ynglŷn â’r camau y byddai Llywodraeth Geidwadol y dyfodol yn ei gymryd, gan gynnwys comisiynu adolygiad annibynnol i weithrediad llysoedd Sharia ym Mhrydain.

Byddai camau hefyd yn cael eu cymryd i “sicrhau diogelwch plant” mewn mannau fel ysgolion a chanolfannau dysgu ac y byddai gwerthoedd Prydain yn ffurfio “rhan annatod o wneud cais am fisa”.

Bydd Theresa May hefyd yn cynnig “gorchmynion gwahardd” i grwpiau eithafol, a fyddai’n ei gwneud hi’n drosedd ymuno neu godi arian ar gyfer grŵp sy’n hyrwyddo casineb. Gallai’r ddedfryd uchaf fod hyd at 10 mlynedd yn y carchar.